Mi fydd y nifer o fanciau yn Nyffryn Clwyd yn lleihau, wedi i Barclays gyhoeddi y byddan nhw’n cau eu canghennau yn nhrefi Rhuthun a Dinbych ym mis Ebrill.

Mae hynny’n golygu mai dim ond un banc yr un fydd ar ôl yn y ddwy dref farchnad, sef banciau HSBC.

Dyma ran o batrwm cyffredin sy’n digwydd ledled Cymru, wrth i fanciau benderfynu cau eu cangen mewn cymunedau gwledig, gan honni bod mwy a mwy yn troi at fancio ar y We.

Mae Aelod Cynulliad sydd â’i swyddfa yn Rhuthun yn pryderu y bydd cau’r ddwy gangen yn golygu y bydd llai o bobol yn ymweld â’r ddwy dref, gan “niweidio’r” busnesau sydd yno.

“Mae busnesau angen banciau er mwyn medru talu eu harian parod i mewn a derbyn gwasanaeth arbenigol,” meddai Llŷr Huws Gruffydd, “ac mae angen lle ar gwsmeriaid i dalu sieciau i mewn a chael y gwasanaeth wyneb-wyneb yna sydd ar gael mewn cangen ar y stryd fawr.”

Cynghorwyr lleol yn beirniadu

Yn ôl un o gynghorwyr Dinbych mae yna fwrlwm economaidd yno, gyda’r parc busnes newydd a grwpiau megis Grŵp Busnes Dinbych, Denbigh in Bloom, a Gŵyl Blwm Dinbych yn dal i ddenu pobol i’r dref.

“Mae’n bechod garw felly gweld nad oes gan Barclays unrhyw deyrngarwch tuag at y dref ac nad ydyn nhw am fod yn rhan o dwf Dinbych.” meddai Rhys Thomas.

Ond yn ôl Emrys Wynne, cynghorydd Rhuthun, mae angen i’r Llywodraeth ddechrau ystyried creu “Banc Cenedlaethol” i Gymru.

“Mae yna angen dybryd i ni gychwyn meddwl am anghenion bancio ein cymunedau a dylai’r Llywodraeth edrych i sefydlu Banc Cenedlaethol i wasanaethu ein cymunedau.”