Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth er mwyn dod o hyd i Daniel Wynne sy’n 32 oed ac wedi torri amodau ei drwydded.

Bwriad yr heddlu yw ei anfon yn ôl i’r carchar.

Mae gan Daniel Wynne gysylltiadau gydag ardal Parc Lansbury, Caerffili, ac mae yn ddyn mawr, tua phum troedfedd saith modfedd o daldra, gyda gwallt brown a llygaid brown.

Mae’r heddlu yn rhybuddio’r cyhoedd i beidio â mynd at Daniel Wynne, ond i ffonio 101 gydag unrhyw wybodaeth berthnasol, neu ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.