Mae dyweddi merch ifanc a fu farw cyn y Nadolig o gyflwr prin iawn, CGD, wedi dechrau ymgyrch codi arian er cof amdani.

Mae Thomas Harvey a gollodd Nia Wyn Thomas, 25, o Nantgaredig ger Caerfyrddin, ddechrau mis Rhagfyr, eisoes wedi codi dros £4,000.

Y targed yw £6,000 a bydd yr arian yn mynd i elusen Cymdeithas CGD [clefyd granulomatous cronig] i helpu pobol eraill sy’n dioddef o’r un cyflwr.

Yn ôl astudiaethau diweddar, mae’r clefyd dim ond yn effeithio ar 1 mewn bob 250,000 o bobol yn Ewrop, a byddai Nia Wyn Thomas wedi bod y cyntaf yng Nghymru i gael llawdriniaeth arbennig i drin y cyflwr.