Mab y cyn-Aelod Cynulliad, Carl Sargeant, sydd wedi ei ddewis yn ymgeisydd y Blaid Lafur ar gyfer isetholiad Alyn a Glannau Dyfrydwy fis nesaf.

Cafodd Jack Sargeant, sy’n 23 oed, ei ddewis gan aelodau’r blaid wedi hystings yng Nghanolfan Hamdden Cei Connah neithiwr.

Fe lwyddodd i guro dwy ymgeisydd arall, sef y cynghorydd sir, Carolyn Thomas, a chynghorydd tref Saltney, Hannah Jones.

Dywedodd Jack Sargeant ei fod yn “ddiolchgar iawn” i aelodau’r Blaid Lafur am ei ddewis, ac y byddai’n arwain ymgyrch “dros y bobol leol”, gan obeithio parhau gyda gwaith da ei dad.

Ymgeiswyr eraill 

Neithiwr hefyd y cafodd Carrie Harper ei dewis yn ymgeisydd Plaid Cymru yn yr isetholiad.

Y cyn-nyrs, Sarah Atherton, yw ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig; a’r cynghorydd lleol, Donna Lalek, ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.

Cyn neithiwr, roedd UKIP wedi dweud na fyddai hi’n cynnig ymgeisydd pe bai Jack Sargeant yn ennill enwebiad y Blaid Lafur.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw dydd Mercher, Ionawr 10 (4yp), ac fe fydd yr isetholiad yn cael ei gynnal Chwefror 6.