Mae dynes 49 oed o Abertawe wedi cael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl i llwch disglair oddi ar gerdyn Nadolig fynd i’w llygad.

Collodd y ddynes ei golwg dros dro, ac mi aeth i Ysbyty Singleton yn y ddinas a chanddi boen a chochni yn ei llygad a phoen yn ei hamrant.

Daeth meddygon o hyd i friw ar ei chornbilen ac roedden nhw’n credu mai haint oedd wedi ei achosi. Ond, o dan y chwyddwydr, fe ddaethon nhw o hyd i ronynnau sgleiniog ar ei chornbilen, ac roedd hi’n cofio bod llwch disglair wedi mynd i’w llygad.

Yn dilyn yr achos, mae adroddiad wedi rhybuddio meddygon i ofyn am drawma posib i’r llygad.