Mae llywodraethau Cymru a San Steffan yn amddifadu cymunedau cefn gwlad o wasanaethau hanfodol, yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, Ben Lake.

Yn ôl Ben Lake, mae diffyg mynediad i fanciau a gwasanaethau gofal iechyd ymhlith y problemau maen nhw’n eu hwynebu.

Dywed fod Llywodraeth Cymru a San Steffan yn euog o adael i fanciau adael trefi cefn gwlad Cymru.

Ystadegau

Yn ôl yr ystadegau a’r gwendidau mae Ben Lake yn tynnu sylw atyn nhw, y mae:

  • 20 o swyddfeydd post cymunedol wedi cau yng Nghymru, a 15% ohonyn nhw yng Ngheredigion;
  • 39 o fanciau lleol wedi cau yn ystod 2017;
  • diffyg band llydan a gwasanaethau symudol, sy’n gorfodi pobol i deithio, er bod trafnidiaeth gyhoeddus yn annigonol;
  • diffyg gwasanaethau gofal iechyd digonol, sy’n ei gwneud hi’n fwy anodd i’r gwasanaethau brys eu cyrraedd.

Esgeuluso

“Mae ardaloedd gwledig yn cael eu hamddifadu o wasanaethau hanfodol gyda swyddfeydd post a banciau yn diflannu yn frawychus o sydyn, a gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu hymestyn yn ormodol,” meddai Ben Lake.

“Erbyn hyn, mae 84% o bobol Cymru wedi eu hamddifadu o bractis deintyddol lleol, ac y mae banciau a swyddfeydd post yn dod yn anos fyth i’w cael. Mae Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru yn diogi wrth i’r cyfleusterau hanfodol hyn ddiflannu a throi cefn ar ein trefi a’n pentrefi gwledig.

“Allwn ni ddim disgwyl i drefi a phentrefi gwledig ffynnu os bydd banciau a swyddfeydd post yn diflannu, gan orfodi trigolion a busnesau i adael,” meddai wedyn. “Dylai Llywodraeth Cymru ystyried creu banc cyhoeddus, yn nwylo’r bobl ac wedi ei wreiddio yn ein cymunedau.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru a llywodraeth San Steffan gydnabod yr heriau hyn, rhoi’r gorau i eistedd ar eu dwylo, a dechrau gwneud rhywbeth i amddiffyn ein cymunedau gwledig.”