Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am dystion yn dilyn lladrad mewn tŷ ym mhentref Llanrug ger Caernarfon ar noswyl Nadolig.

Yn ôl yr heddlu, fe dorrodd y lladron ffenest er mwyn cael mynediad i’r tŷ yn Tan-y-Coed, a hynny rywbryd rhwng 4.30yp a 9.30yh ar Ragfyr 24.

Fe gafodd sawl eitem ei dwyn, ac fe adawyd llanast ar eu holau.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu ar y rhif 101.