Mae cannoedd o gartrefi yn ne a gorllewin Cymru heb drydan, wrth i Storm Eleanor barhau i achosi trafferthion ledled Cymru.

Yn ôl cwmni Western Power, mae tua 200 o gartrefi yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a’r Coed Duon heb gyflenwad trydan, ac mae gwyntoedd cryfion hefyd wedi achosi i ail bont Hafren a Phont Cleddau yn Sir Benfro i gael eu cau.

Mae cyfyngiadau ar bont Britannia rhwng Gwynedd a Sir Fôn hefyd, ac mae rhan o do wedi chwythu ar lôn yn Sant Brîd ym Morgannwg.

O ran trafferthion eraill yng Nghymru, mae rhybuddion llifogydd ar gyfer nifer o gymunedau arfordirol yn parhau, ac mae’r A487 rhwng Aberteifi ac Abergwaun ar gau oherwydd llanw uchel.

Mi fydd y rhybudd melyn, yn ôl y Swyddfa Dywydd, yn parhau tan 6yh heddiw (dydd Mercher).