Mae dyn o Gaerllion ger Casnewydd ar ganol rhwyfo Môr Iwerydd ar hyn o bryd ac, o’i gwblhau, ef fyddai’r person cyntaf â chlefyd y siwgr i gyflawni’r her.

Mae Hugo Thompson yn un o griw o bedwar o ddynion ifanc 26 oed o Gaerllion sydd ar ganol yr her, sef John Morgan, Joel Wood a Monty Williams.

Mae’r pedwar wedi cychwyn ar y daith ers canol mis Rhagfyr ac maen nhw’n rhan o’r her ‘Talisker Whisky Atlantic’ sy’n cael ei disgrifio yn un o’r rasys rhwyfo anoddaf drwy’r byd.

Fel arfer, mae’r daith yn cymryd rhwng 40 a 90 diwrnod i’w gwblhau ac maen nhw wedi gadael Ynysoedd y Canarïa ac yn anelu am Antigua yn Ynysoedd y Caribî – taith o tua 3,000 o filltiroedd.

‘Mwy yn dringo Everest’

Mae’r criw, sy’n galw eu hunain yn ‘Tîm Oarstruck’ yn gobeithio codi £50,000 at elusen Diabetes UK ac wedi codi mwy na £3,700 hyd yn hyn.

Maen nhw’n gwneud hyn am i Hugo Thompson, un o’r criw, gael diagnosis o Glefyd y Siwgr Math 1 yn 2015.

“Dydyn ni ddim yn tanbrisio’r her,” meddai Hugo Thompson gan ddweud fod “mwy wedi dringo Everest nag sydd wedi rhwyfo’r Iwerydd.”

“Mae’n heriol ond rydyn ni’n barod,” meddai gan ychwanegu ei fod yn “hyderus” y gall reoli ei lefelau siwgr drwy gydol y daith.

“Dyw clefyd y siwgr ddim am fy rhwystro i rhag gwneud unrhyw beth – dim hyd yn oed croesi cefnfor.”