Mae prisiau gwartheg wedi cynyddu 20 y cant mewn cymhariaeth â’r flwyddyn flaenorol, yn ôl ffigurau Hybu Cig Cymru.

Yn ôl yr asiantaeth hyrwyddo cig coch mae’r cynnydd mawr mewn pris oherwydd fod y cyflenwad o wartheg yn gyfyngedig yn fyd-eang.

Roedd y pris cyfartalog pwysau marw ar gyfer bustych ym Mhrydain yn ystod wythnos gyntaf mis Medi ychydig dros £3.24/kg, mewn cymhariaeth â £2.70 yn ystod y cyfnod cyfatebol yn 2010.

Cafwyd cynnydd o 21 y cant i gyfartaledd o £3.21/kg ym mhrisiau heffrod yn ystod yr un cyfnod, a chynnydd o 24 y cant i gyfartaledd o £3.09/kg ym mhrisiau teirw ifainc.

“Mae’r prisiau uwch yn dilyn nifer o flynyddoedd caled i ffermwyr cig eidion yng Nghymru a gweddill Prydain sydd wedi’i chael hi’n anodd i wneud elw, yn enwedig am fod prisiau tanwydd, porthiant a gwrtaith yn cynyddu drwy’r amser,” meddai swyddog gwybodaeth Hybu Cig Cymru, John Richards.

“O leiaf mae’r prisiau hyn yn dynodi gwelliant yn rhagolygon busnes ffermwyr cig eidion yng Nghymru.”

Fel diwydiant rhyngwladol, rhaid i’r sector cig coch yng Nghymru ystyried yr hyn sy’n digwydd ar lwyfan y byd.

“Rhagwelir y bydd cynnyrch cig eidion yn cynyddu yn Awstralia a Brasil yn unig yn ystod y 12 mis nesaf, ac y bydd yn gostwng mewn gwledydd eraill,” meddai John Richards.

“Mae Tsieina yn mynd yn bwysicach yn y farchnad fwyd, ac mae disgwyl i’r wlad brynu rhagor o gig eidion o Dde America, wrth i Rwsia ddal i fewnforio llawer o gig eidion am ei bod yn ei chael hi’n anodd i gynhyrchu rhagor ei hunan. Ar yr un pryd mae Prydain yn allforio rhagor i aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae’r ffactorau cyfranogol hyn wedi helpu i hybu prisiau i ffermwr cig eidion Cymru, sydd, gobeithio, wedi rhoi peth hyder iddyn nhw o ran hyfywedd hirdymor y diwydiant,” meddai.