Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru’n annog y cyhoedd i gofrestru gyda phrosiect i ddod o hyd i well ffyrdd o atal a thrin salwch.

Fe fydd y prosiect, Doeth am Iechyd Cymru, yn helpu i drawsnewid gofal, triniaethau a chyfraddau goroesi llawer iawn o glefydau gan gynnwys clefyd y galon, diabetes a chanser, meddai Dr Frank Atherton.

Mae’r prosiect yn defnyddio gwybodaeth am iechyd a lles pobol ledled Cymru i warchod iechyd y cenedlaethau i ddod, meddai.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a than arweiniad Prifysgol Caerdydd, mae’n nodi cysylltiadau rhwng iechyd pobl, eu ffordd o fyw a’u hamgylchedd.

Mae’r wybodaeth wedyn yn cael ei defnyddio i helpu i atal salwch ac i ddatblygu triniaethau newydd.

“Heriau iechyd”

“Po fwyaf o wybodaeth sydd gennym ni am bob salwch sy’n wynebu’r genedl heddiw, y mwyaf parod fyddwn ni i ddelio â heriau iechyd yfory,” meddai Frank Atherton.

“Wrth i ni ddechrau 2018, mae ‘Doeth am Iechyd Cymru’ wedi arloesi eisoes a bellach mae ar fin dod yn adnodd unigryw a phwerus.

“Rydw i’n falch o ddweud bod mwy na 15,000 o bobol wedi cofrestru eisoes.

“Fdd bynnag, unwaith y byddwn ni’n symud yn uwch na’r marc 20,000, fe fyddwn ni’n dechrau cynhyrchu gwybodaeth a fydd yn gwneud byd o wahaniaeth yn gyflym iawn, gan helpu i ateb y cwestiynau mawr a fydd yn gwella gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, arwain at well triniaethau a gwella iechyd a lles pobol Cymru.”

Mae cyfranogwyr Doeth am Iechyd Cymru yn ateb holiadur ar-lein bob chwe mis, gan rannu gwybodaeth am eu hiechyd, eu ffordd o fyw a’u lles.

“Nid yw’n orfodol llenwi pob holiadur, ond po fwyaf o wybodaeth fydd pobol yn gallu ei rhannu, y gorau fydd y darlun a gaiff ymchwilwyr o sefyllfa iechyd pobol,” meddai wedyn.