Mae ymgyrch Blwyddyn y Môr 2018 Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at arfordir Cymru wedi ennyn ymateb cymysg gan gwmni gwyliau ym Mannau Brycheiniog.
Mae’r ymgyrch yn dilyn Blwyddyn y Chwedlau eleni a Blwyddyn Antur 2016, ac fe gafodd ei ymestyn hyd at 2019 yn dilyn llwyddiant y Flwyddyn Antur y llynedd.
Blwyddyn Darganfod fydd 2019, gan ganolbwyntio ar antur, diwylliant a’r awyr agored.
Mae twristiaid yn heidio i Lwybr yr Arfordir bob blwyddyn i gerdded ar hyd rhannau o’r llwybr 870 milltir o hyd. Mae’n cynnwys 230 o draethau a 50 o ynysoedd lle mae modd gweld bywyd gwyllt prin a chwblhau gweithgareddau dŵr.
Cwmni cychod gwyliau
Mae cwmni Beacon Park Boats wedi’i leoli yn Llangatwg ym Mannau Brycheiniog.
Alasdair a Sarah Kirkpatrick sy’n rhedeg y cwmni sy’n cynnig gwyliau pum seren ar y dŵr – o gychod pleser i gychod moethus a bythynnod ger y gamlas.
O fewn pellter byr o’r gamlas mae trefi Aberhonddu, Crughywel a’r Fenni ac afon Wysg, yn ogystal â safle Treftadaeth y Byd Blaenafon.
Ac mae mynydd Pen-y-fan ond ryw chwarter awr i ffwrdd yn y car.
O safbwynt adloniant, mae Theatr Brycheiniog a sawl sinema yn yr ardal leol ac mae nifer o ddigwyddiadau blynyddol yn cael eu cynnal gerllaw, gan gynnwys Gŵyl y Gelli, Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Gŵyl Fwyd y Fenni.
Croesawu sylw
Yn ôl Sarah Kirkpatrick, fe ddylai ymgyrch Blwyddyn y Môr ganolbwyntio ar ddyfroedd, a hynny ym mhob rhan o Gymru, ac nid yr arfordir yn unig.
Dywedodd wrth golwg360: “Mae’r ymgyrch yn cynnig mwy o gyfle i ni arddangos ein hunain nag y byddai gennym fel arall, a dw i’n croesawu unrhyw beth sy’n denu twristiaid i’r ardal.
“Ond fe allai’r ymgyrch fod wedi bod yn Flwyddyn y Dŵr, a fyddai wedi tynnu sylw at yr arfordir i gyd ac wrth gwrs atom ni yn fan hyn ym Mannau Brycheiniog.”