Union flwyddyn i heddiw, fe fydd tollau pontydd Hafren yn cael eu diddymu, ac mae Llywodraeth Prydain yn darogan y bydd yn rhoi hwb o £100 miliwn i economi Cymru.

Maen nhw’n dweud y bydd hefyd yn cryfhau’r cyswllt rhwng de Cymru a de-orllewin Lloegr ac mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi gwahodd busnesau o’r ddwy ardal i uwchgynhadledd yng Nghasnewydd ar Ionawr 22.

Dywedodd mewn datganiad fod y tollau’n “rhwystr i dwf economaidd Cymru ers dros hanner canrif”, ac y bydd eu diddymu’n arwain at “yr ysgogiad economaidd mwyaf i dde Cymru a’r Cymoedd ers degawdau”. Fe fydd hefyd, meddai, yn hwb i dwristiaeth a pherchnogion busnes.

“Bydd diddymu’r tollau’n cryfhau’r cyswllt rhwng economi a chymunedau De Cymru a De-orllewin Lloegr, gan greu coridor o dwf o Gaerdydd a thrwy Gasnewydd i Fryste.”

Gostwng y tollau o Ionawr 8

Ar ôl i bontydd Hafren ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus yr wythnos nesaf (o Ionawr 8 ymlaen), fe fydd y tollau yn gostwng.

Cafwyd addewid yng Nghyllideb Llywodraeth Prydain yn 2015 y byddai hynny’n digwydd, a hynny am y tro cyntaf ers sefydlu pont Hafren yn 1966. Fydd y tollau ddim ychwaith yn codi yn unol â chwyddiant.

Y prisiau o Ionawr 8 ymlaen fydd:

  • £5.60 i geir (yn lle £6.70)
  • £11.20 i fysus hyd at 17 sedd neu faniau (yn lle £13.40)
  • £16.70 i lorïau neu fysus â mwy nag 18 o seddi (yn lle £20)