Cafodd dau o bobol eu hanafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mhorthcawl neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 30).

Cafodd y gwasnaethau brys eu galw am oddeutu 11.25pm ar ôl y gwrthdrawiad rhwng Fiat 500 gwyn a Vauxhall Corsa coch ar ffordd A4229.

Cafodd dau o bobol oedd yn y Vauxhall Corsa eu cludo i’r ysbyty, lle maen nhw’n derbyn triniaeth ar hyn o bryd.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae Heddlu’r De wedi apelio am dystion, a hoffen nhw siarad ag unrhyw un oedd wedi cynnig cymorth yn dilyn y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a welodd y ceir cyn y gwrthdrawiad ac sydd heb roi eu manylion i’r heddlu.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.