Mae trefnwyr digwyddiad ‘Rasys Nos Galan’ wedi cyhoeddi pa ffyrdd fydd ynghau yn ystod y ras flynyddol yn Aberpennar heno (nos Sul, Rhagfyr 31).

Mae disgwyl torf o fwy na 10,000 yn y dref yn ogystal â 1,700 o redwyr ar gyfer y digwyddiad Nos Calan mwyaf yn Rhondda Cynon Taf.

Fe fydd bysys gwennol yn cludo pobol yn ôl ac ymlaen i’r ras o Ysgol Uwchradd Aberpennar bob 10-15 munud rhwng 3.30-9.30pm, ac fe fydd Stryd Rhydychen ynghau am y cyfnod hwnnw.

Fe fydd Ffordd Llanwynno, Teras Cilhaul, y Stryd Fawr a Stryd Price ynghau o 4.30pm ymlaen, ac yn cael eu cau fesul dipyn.

Bydd traffig yn cael ei symud ar hyd ffyrdd amgen yn ystod y ras.

Amserau’r rasys

Dechreuodd y ras gyntaf i blant am 5.15pm.

Y cyn-chwaraewr rygbi a’r paffiwr Nathan Cleverly yw’r Rhedwyr Dirgel eleni.

Bydd y brif ras yn dechrau am 7 o’r gloch, a’r Ras Hwyl 5k i oedolion yn dechrau hanner awr yn ddiweddarach.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan: “Oherwydd bod ein rasys bob amser wedi cynyddu o ran eu poblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni’n cydweithio’n agos gyda Heddlu’r De drwy gydol y camau cynllunio ar gyfer y digwyddiad teuluol mawr.

“Gyda digwyddiadau ar y raddfa yma, mae’n anochel y bydd peth oedi, ond rydym yn gofyn i deithwyr a thrigolion i fod yn amyneddgar ac os oes angen, i wneud trefniadau teithio amgen yn ystod Rasys Nos Galan.”

Hanes y ras

Cafodd y ras ei sefydlu yn 1958 gan Bernard Baldwin.

Mae’n coffáu Guto Nyth Bran, neu Griffith Morgan, dyn lleol a chanddo ddawn am redeg. Mae nifer o chwedlau lleol am ei orchestion wedi para ar hyd y blynyddoedd.

Mae’r Rhedwr Dirgel blynyddol yn cludo ffagl er cof amdano wrth redeg.

Cyn y ras mae gwasanaeth yn cael ei gynnal yn eglwys Llanwynno.

Mae’r Rhedwyr Dirgel dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru Chris Coleman, y chwaraewyr rygbi Adam Jones ac Alun Wyn Jones a’r cyn-redwr Colin Jackson.