Mae Heddlu’r De wedi’u galw i “dirlithriad bach” ym Mhort Talbot.

Ar eu tudalen Twitter, dywed yr heddlu eu bod yn ymdrin â’r digwyddiad ar Ffordd Cwmafan yn y dref.

Mae’r B4286 ynghau i’r ddau gyfeiriad ar hyn o bryd.

Dylai teithwyr a cherddwyr gadw draw o’r ardal am y tro, yn ôl yr heddlu, sydd wedi diolch i’r “cyhoedd am eu hamynedd”.