Mae teulu dynes 71 oed o’r Coed Duon fu farw mewn gwrthdrawiad ar Ddydd Nadolig wedi talu teyrnged iddi.

Dywedodd teulu Gloria Jones eu bod nhw “wedi torri’u calonnau” ar ôl iddi farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd A421 yn Swydd Buckingham am 3 o’r gloch y prynhawn.

Dywedon nhw eu bod nhw wedi colli’r “fam a’r nain fwyaf cariadus a hael yn y byd”.

“Roedd hi’n caru pawb a phawb yn ei charu hithau. Ry’n ni ar goll yn llwyr hebddi.”

Mae ymchwiliad ar y gweill.