Mae capten tîm rygbi Cymru a’r Llewod, Sam Warburton wedi dweud mai derbyn OBE yw “pinacl” ei yrfa.

Cafodd ei enwi ar restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd y Frenhines heddiw, a hynny am ei wasanaeth i’r byd rygbi.

Mae’r blaenasgellwr yn ddi-guro mewn dwy gyfres i’r Llewod – yn Awstralia bedair blynedd yn ôl ac yn Seland Newydd eleni, ac mae wedi ennill 74 o gapiau dros Gymru.

‘Braint’

Dywedodd fod derbyn yr anrhydedd yn “fraint” a’i fod yn “falch iawn o gael bod yn Swyddog Trefn yr Ymherodraeth Brydeinig”.

“Y gydnabyddiaeth hon yw pinacl fy ngyrfa gan ei bod nid yn unig yn anrhydedd bersonol ond yn wobr hefyd i’m cyd-chwaraewyr a hyfforddwyr ar bob lefel, lawn cymaint ag ydyw’n wobr i fi.

“Fyddai hi ddim wedi bod yn bosib heb yr holl bobol o’m cwmpas sydd wedi siapio fy mywyd rygbi.”

Diolchodd i’w deulu ac i’w asiant Derwyn Jones am eu cefnogaeth.