Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones i gefnu ar gynlluniau i gyflwyno treth dwristiaeth y flwyddyn nesaf.

Mae’n un o bedair treth newydd sydd dan ystyriaeth, ond mae Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn gwrthwynebu’r cynlluniau a allai gael effaith sylweddol ar y diwydiant yng Nghymru.

Mae busnesau hefyd wedi rhybuddio y gallai gael “effaith ddinistriol” arnyn nhw, fel y cafodd ar yr Iseldiroedd yn 2006, pan ddaeth i’r amlwg nad oedd refeniw yn cael ei ailfuddsoddi yn y diwydiant.

Yng Nghymru, mae’n Flwyddyn y Môr y flwyddyn nesaf, ac fe allai hynny ddenu mwy o dwristiaid i ardaloedd arfordirol y wlad.

‘Denu pobol… nid eu pluo’

Wrth alw am gefnu ar y cynlluniau, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar yr economi, Russell George: “Fe allai’r dreth hon ar dwristiaid ddinistrio busnesau bychain, gan rwystro pobol rhag ymweld â Chymru a gwneud y gwyliau teuluol yn ddrutach ar gyfartaledd.

“Mae’n debyg y byddai hyn yn dod i rym yn ystod y tymor brig, pan fo rhieni eisoes yn wynebu baich anferth o ran prisiau’n codi.

 

“Gallai’r effaith ar swyddi a’r gwestai a llefydd gwely a brecwast lleiaf fod yn ddinistriol.

“Gwaith Llywodraeth Cymru yw denu pobol i ddod i wario arian drwy ymweld â’n gwlad hardd – nid eu pluo nhw.

“Wrth i Carwyn Jones eistedd i ystyried ei flaenoriaethau ar gyfer 2018, dylai gollwng y dreth dwristiaeth fod ar frig ei restr.

“Cefnogwch fusnesau a’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru – peidiwch â’u lladd nhw.”