Fe fydd capten tîm rygbi Cymru a’r Llewod, Sam Warburton yn derbyn OBE wrth i restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd y Frenhines gael ei chyhoeddi.

Roedd yn gapten ar garfan y Llewod yn Seland Newydd eleni, ac fe ddywedodd ei fod yn “falch iawn” o gael ei gydnabod.

Ymhlith y Cymry eraill sydd wedi’u hanrhydeddu mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan, sy’n dod yn Fonesig, a chyn-Ddirprwy Lywydd y Cynulliad David Melding, sy’n derbyn CBE.

Adroddwraig

Daeth Helena Jones o Aberhonddu i amlygrwydd ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni y llynedd, a hithau’n 99 oed ar y pryd ac yn cystadlu ar y llefaru unigol dros 16 oed.

Dysgodd hi’r Gymraeg yn Sefydliad y Merched yn ei thref enedigol.

Mae hi’n derbyn Medal yr Ymherodraeth Brydeinig am ei gwasanaeth i bobl ifanc a’r gymuned.

Anrhydeddau eraill

Ymhlith y bobol eraill sydd wedi’u hanrhydeddu mae:

  • Sylfaenydd Gŵyl y Gelli Peter Florence (CBE) a’r cadeirydd Revel Guest (OBE).
  • Cyn-Brif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru Jonathan Morgan, sy’n derbyn OBE.
  • Alan Davis, hyfforddwr clwb seiclo y Maindy Flyers yn y brifddinas, sydd hefyd wedi hyfforddi Owain Doull ac Elinor Barker, yn derbyn MBE.
  • Y nofelydd Deborah Moggach, awdur These Foolish Things a gafodd ei throi’n ffilm The Best Exotic Marigold Hotel, yn derbyn OBE.
  • Sylfaenydd Cerddorfa Philharmonic Caerdydd, Michael Bell yn derbyn MBE
  • Ditectif Gwnstabl gyda Heddlu’r Gogledd Timothy Bird a’r Sarjant Scott Gallagher ill dau yn derbyn MBE, ynghyd â’r Cwnstabl Richard Morgan o Heddlu’r De.
  • Fe ddaw cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Michael Giannasi yn CBE, ynghyd â Philip Routledge, ffisegwr ymgynghorol Ysbyty Llandŵ ym Mro Morgannwg.
  • Mae rheolwr gyfarwyddwr cwmni Cambrian, David Arwyn Watkins yn derbyn OBE am ei gyfraniad i fyd addysg a hyfforddiant.
  • Ac mae David Gravell o Gydweli’n derbyn Medal yr Ymherodraeth Brydeinig, sydd hefyd yn mynd i Sheila Lynette Thomas o Aberhonddu am ei chyfraniad i gerddoriaeth, addysg a’r Gymraeg.

Llongyfarchiadau

Wrth longyfarch pawb sydd wedi’u hanrhydeddu, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: “Rwy’n falch iawn i gydnabod a rhoi diolch i’r rhai sydd yn gwasanaethu eu cymunedau gydag ymroddiad anhunanol er lles pobol eraill.

“Dylai’r rhai a gafodd eu henwebu ar gyfer y wobr hon fod yn hynod o falch o’u cyflawniadau, ac rwy’n estyn fy niolch a’m llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd.”