Mae’r bachgen wyth oed a gafodd ei ladd wrth i gar daro yn erbyn coeden ddoe wedi cael ei enwi fel Jenson Evans.

Roedd wedi marw yn y fan a’r lle yn y trychineb tua 5.45 neithiwr ar ffordd gefn o Tonysguboriau i gyfeiriad Coed Elái yn Rhondda Cynon Taf.

Mae Jenson wedi cael ei ddisgrifio fel “bachgen hoffus a direidus” gan ei deulu mewn teyrnged iddo.

“Nid oes unrhyw eiriau sy’n ddigon i ddisgrifio’n cariad atat ti, a’r golled a deimlwn. Fe fyddwn ni’n colli’r cwtsio gyda’r nos a’th gusan cyn mynd i’r gwely.

“Mab, brawd, ŵyr, gorwyr, cefnder, nai a ffrind rhyfeddol – fe fyddwn ni’n dy golli di am byth.”

Roedd Jenson Evans yn y car gyda’i deulu, ac mae ei frawd iau a’i rieni wedi cael dod adref o’r ysbyty, ond mae ei frawd hŷn yn dal yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

Hoffai Heddlu De Cymru siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a stopiodd i roi help, neu unrhyw un a welodd y Seat Altea glas yn cael ei yrru cyn y digwyddiad, neu a oedd yn teithio ar y ffordd tua’r adeg honno.

Maen nhw’n gofyn i unrhyw rai â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 gan nodi cyfeirnod 1700504610.