Yr angen i warchod amrywiaethau lleol yn y Gymraeg yw un o’r prif bynciau trafod ar grŵp Iaith Facebook dros y ddeuddydd ddiwethaf.

Dywed Aled Thomas o Benarth, a gychwynnodd y drafodaeth, ei fod yn hapus iawn gyda’r ymateb a safon y sylwadau.

Mae’n galw am i brif dafodieithoedd rhanbarthol y Gymraeg ddod yn rhan o’r Cwricwlwm er mwyn cyfoethogi diwylliant a hunaniaeth siaradwyr yr iaith.

“Mae llawer o dafodieithoedd rhanbarthol Cymraeg o dan fygythiad, ac mae angen iddyn nhw gael eu gwarchod a’u trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol,” meddai.

“Hoffwn weld pob un o ranbarthau Cymru’n dysgu a defnyddio’r dafodiaith sy’n gysylltiedig â’r ardal maen nhw’n byw ynddo ac ymfalchïo yn eu ffurf draddodiadol o’r Gymraeg.”