Mae ardaloedd menter Llywodraeth Cymru wedi profi i fod yn ffordd ddrud o greu swyddi, yn ôl y Ceidwadwyr.

Maen nhw wedi tynnu sylw at ystadegau newydd sy’n dangos bod y Llywodraeth wedi gwario £221 miliwn ar yr ardaloedd menter ers 2012, a’u bod wedi arwain at greu 3,000 o swyddi newydd, diogelu 4,500 o swyddi ac estyn cymorth i 3,100 o swyddi eraill.

Gan ddadlau mai creu swyddi newydd ddylai prif nod yr ardaloedd menter fod. dywed y Ceidwadwyr fod y cynllun economaidd hwn wedi costio £74,000 am bob swydd newydd.

O’r 3,000 o swyddi newydd hyn, mae’r niferoedd fesul ardaloedd menter unigol yn amrywio o 1290 yng Nglannau Dyfrdwy i 6 yn unig yn Ardal Fenter Eryri.

“Mae rhai o’r ardaloedd hyn yn amlwg wedi tan-berfformio, ac yn y tymor hir gallai’r polisi hwn brofi i fod y gwastraff mwyaf o arian cyhoeddus yn y cyfnod datganoledig,” meddai Russell George AC, Cysgod Ysgrifennydd yr Economi.

Fe fydd pwyllgor Cynulliad o dan ei gadeiryddiaeth yn pwyso a mesur perfformiad yr ardaloedd menter yn y flwyddyn newydd.