Mae’r chwaraewr rygbi George North wedi cyhoeddi ei fod wedi dyweddïo a’r cyn-seiclwraig Olympaidd Becky James.

Fe gyhoeddodd y ddau eu bod wedi dyweddïo ddydd Mercher.

Mae disgwyl i George North adael Northampton a dychwelyd i Gymru ar ddiwedd y tymor. Roedd Becky James wedi rhoi’r gorau i seiclo ym mis Awst yn dilyn cyfnod o anafiadau ac iselder. Mae hi wedi dechrau menter bobi newydd.

Jamie Roberts, un o gyd-chwaraewyr rygbi George North, oedd y cyntaf i longyfarch y cwpl ar Twitter.