Mae Nathan Gill wedi ymddiswyddo o fod yn Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru.

Mewn datganiad heddiw, meddai’r AC sydd wedi bod yn gweithredu yn annibynnol ers gadael grwp UKIP ym Mae Caerdydd fis Gorffennaf 2016:

“Mae camu i lawr o fod yn Aelod Cynulliad tros ogledd Cymru yn dristwch ac yn rhyddhad.

“Rydw i wedi gwneud y penderfyniad ers peth amser, ar sail egwyddor, nid oherwydd pwysau gan neb arall. Rydw i wedi ynghynghori efo’r ymgeisydd nesaf ar y rhestr (Mandy Jones) ac mi wnes i gytuno i oedi cyn ymddiswyddo er mwyn rhoi amser iddi baratoi i gymryd fy lle.

“Rydw i’n falch o fod wedi arwain UKIP a bod y blaid gyntaf i dorri trwodd i’r Cynulliad Cenedlaethol ers sefydlu’r drefn, gan ennill saith o seddau yn 2016, a dw i’n falch iawn mai fi oedd Aelod Cynulliad cyntaf y blaid.”

Yn ei ddatganiad hefyd, mae Nathan Gill yn dweud mai Brexit ydi’r mater mwyaf sy’n wynebu Cymru dros y cyfnod nesaf. Dyna pam, meddai, mai yn rhinwedd ei swydd yn Aelod o Senedd Ewrop y bydd yn gallu cyfrannu orau at amddiffyn gwerthoedd a lles Cymru, a hynny ym Mrwsel.

“Rydw i’n rhoi’r gorau i sicrwydd swydd yn y Cynulliad er mwyn canolbwyntio ar fy ngwaith yn Senedd Ewrop am y flwyddyn olaf, allweddol, yn rhan o’r sefydliad hwnnw,” meddai Nathan Gill wedyn.

“Mae gwasanaethu yn y ddau le wedi rhoi profiad amhrisiadwy i mi, ac wedi profi cyn lleied o gysylltiad sydd rhwng y gwleidyddion sy’n eistedd yn y seneddau gwahanol.

“Rydw i’n addo y bydd y drws yn agored i unrhyw wleidydd yng Nghymru – pa bynnag blaid y maen nhw’n perthyn iddi – i ddod ata’ i yn rhinwedd fy swydd yn Aelod o Senedd Ewrop, wrth i ni symud ymlaen i gyfnod nesaf, hanfodol, y trafodaethau.”