Y Cymro, Tony Pulis, sydd wedi’i apwyntio’n rheolwr newydd clwb pêl-droed Middlesborough, yn dilyn ymadawiad Garry Monk.
Fe ddaeth y cyhoeddiad am ymadawiad Garry Monk ddydd Sadwrn, wedi buddugoliaeth 2-1 Middlesborough yn erbyn Sheffield.
Cyn hynny, roedd Tony Pulis wedi cael ei enwi yn olynydd posib i Chris Coleman yn rheolwr Cymru, byth ers iddo golli ei waith yn rheoli West Bromwich Albion ym mis Tachwedd.
Roedd hefyd yn cael ei ystyried yn un o’r enwau posib i gymryd lle Paul Clement yn rheolwr Abertawe mor ddiweddar â’r wythnos ddiwethaf.