Mae un o arweinwyr crefyddol Cymru wedi galw am roi pen ar gasineb ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit.

Yn ôl Geraint Tudur Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, efallai y bydd y casineb yn peidio tros gyfnod y Nadolig ond, fydd hynny ddim yn para’.

“Ofnac y bydd ysbryd y Nadolig yn diflannu’n gyflym wrth i’r broses Brexit fynd yn ei blaen,” meddai gan alw am gynnal ysbryd y Nadolig yn y tymor hir.”

‘Oes o chewrwder’

Roedd yn dweud ei bod hi’n oes o “chwerwder gwleidyddol mawr” ac fe gondemniodd “benwadwau ymfflamychol” yn y wasg, yn ogystal ag ymosodiadau ar wefannau fel Twitter a Facebook.

“Gall ymosodiadau personol o’r fath, nid yn unig frifo pobol, ond gwneud iddyn nhw ofni am eu diogelwch.”

Mae gan yr Annibynwyr 400 o gapeli yng Nghymru.