Mae disgwyl iddi fod ymhell iawn o Nadolig gwyn yng Nghymru heddiw.
Fe wawriodd hi’n gynnes a’r disgwyl yw machlud gwlyb wrth i’r tywydd cynnes anhymorol barhau am un diwrnod arall.
Nadolig Llwyd fydd hi yn y bore, pan fydd y tywydd yn ddwl ond yn gymharol sych, gyda disgwyl glaw trwm yn lledu ar draws y wlad yn y prynhawn.
Fe fydd hi wedyn yn oeri tros nos ac mae disgwyl rhywfaint o eira tros dir uchel, ond yn rhy hwyr.