Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi dweud na fydd hi’n cyhoeddi neges Nadoligaidd eleni.

Mewn neges ar ei thudalen Twitter, dywedodd: “Alla i ddim dod i ben â ‘meddwl am y rhai llai ffodus na ni’ ar adeg y Nadolig yn unig.”

Ond ychwanegodd: “Yn hytrach, dymunaf lonyddwch a hapusrwydd a nerth ar gyfer gwleidyddiaeth bositif i helpu i frwydro yn erbyn anghyfiawnder yn 2018.”

Negeseuon

Daw “neges” Leanne Wood ar ôl i nifer o arweinwyr gwleidyddol, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, gyhoeddi eu negeseuon Nadoligaidd hwythau heddiw.

Yn ei neges yntau, dywedodd Carwyn Jones fod 2017 wedi bod yn “flwyddyn anodd”, a hynny’n dilyn marwolaethau Carl Sargeant a Rhodri Morgan.

Yn ei neges hithau, dywedodd Prif Weinidog Prydain, Theresa May y dylai pobol “ymfalchïo yn eu treftadaeth Gristnogol”.

Galwodd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn am helpu “pobol unig”.