Mae dyn 39 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad yn Abertawe nos Sadwrn (Rhagfyr 23).

Yn ôl adroddiadau, roedd dyn wedi cael ei drywanu ger swyddfa cwmni tacsis yn y ddinas neithiwr.

Dywedodd Heddlu’r De fod ymosodiad wedi digwydd am oddeutu 8.40pm ar y Stryd Fawr.

Mae dyn 29 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Cafodd heddlu arfog eu galw i’r digwyddiad, ac roedd y Stryd Fawr ynghau neithiwr.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.