£1m yn ychwanegol y flwyddyn i Mudiad Meithrin

Diweddarwyd  

Llun CC0 trwy www.pixabay.com

Dyfarnwyd miliwn o bunnoedd y flwyddyn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf i Mudiad Meithrin, er mwyn cynorthwyo’r sefydliad i gyrraedd targedau fel rhan o’r ymgyrch i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Bydd y sefydliad yn cael £3.031m y flwyddyn am y ddwy flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn cynnwys £2.031m o gyllid blynyddol a £1 miliwn y flwyddyn  yn ychwanegol yn rhan o’r fargen rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r gyllideb.

Daw’r cyllid ar ôl i’r sefydliad gyhoeddi’r papur ‘Meithrin Miliwn’ yn nhymor yr haf 2017, yn amlinellu’r camau y mae angen eu cymryd i alluogi Mudiad Meithrin i ymateb yn gadarnhaol i’r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae hynny’n golygu:

  • Cynnig cymorth ychwanegol i sefydlu cylchoedd meithrin mewn ardaloedd blaenoriaeth ledled Cymru lle nad oes digon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd;
  • Datblygu modelau gwahanol ar gyfer cylchoedd meithrin newydd;
  • Cryfhau strwythurau rhanbarthol a chenedlaethol Mudiad Meithrin i gefnogi’r cynnydd yn nifer yr aelodau.

“Mae miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged uchelgeisiol iawn,” meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

“Mae addysg, ac addysg y blynyddoedd cynnar yn arbennig, yn allweddol yn hyn o beth a dyna pam yr ydym wedi gosod targedau i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg trwy sefydlu 40 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol erbyn 2021 a 150 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol dros y degawd sydd i ddod.

“Gan mai Mudiad Meithrin yw’r arbenigwr ym maes gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg, mae gan y sefydliad gyfraniad hollbwysig i’w wneud. Rwyf wrth fy modd felly yn cyhoeddi’r cyllid ychwanegol hwn i’w gynorthwyo i gyfrannu at y targed.”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Tywysogion Cymru – pa rai sy’n werth eu cofio?