Mae dau fodurwr wedi cael eu carcharu am ladd mam ifanc yn y Barri.

Roedd Jamie Oaten, 23, wedi taro Jenna Miller wrth iddi adael gorsaf betrol ar Ffordd Caerdydd, ar Fedi 27, 2016, ac fe blediodd yn euog i gyhuddiad o achosi ei marwolaeth.

Roedd Joseph Fettah, 20, yn rasio Jamie Oaten ar y pryd, ac er iddo bledio’n ddieuog i’r un cyhuddiad, fe’i cafwyd yn euog yn dilyn achos fis diwethaf.

Gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw (Rhagfyr 22), cafodd Jamie Oaten, o’r Barri, ei ddedfrydu i dair blynedd a naw mis o garchar. Mae Joseph Fettah o’r Rhws wedi derbyn dedfryd pum mlynedd o hyd.

Mae’r ddau ddyn wedi’u gwahardd rhag gyrru am saith mlynedd a hanner.

“Torcalon” y teulu

“Mae ein calonnau wedi torri yn sgil marwolaeth sydyn a trasig ein Jenna,” meddai teulu Jenna Miller mewn datganiad.

“Rydym yn gobeithio y bydd cyfnod hir dan glo yn rhoi cyfle i Jamie Oaten a Joseph Fettah feddwl am yr holl dorcalon a dinistr y maen nhw wedi’i achosi.”