Mae merch o Drefor yng Ngwynedd wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn ysgrifennu llythyron i blant ar ran Siôn Corn.

Me wnaeth Miriam Williams, sy’n gweithio i Lenyddiaeth Cymru yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, gychwyn y fenter Llythyrau Siôn Corn yn gynnar eleni, ac mae galw mawr wedi bod am ei gwasanaeth.

Mae’r gwasanaeth hwnnw yn cynnwys ysgrifennu llythyrau personol gan Siôn Corn â llaw, ac mae modd cynnwys pob math o wybodaeth wahanol sy’n berthnasol i’r plentyn sy’n derbyn y llythyr.

Mae’r llythyr hwnnw wedyn yn cael eu postio’n syth ato, gyda’i enw a’i gyfeiriad, stamp Pegwn y Gogedd a chŵyr wedi’i osod ar yr amlenni.

Dim gwasanaeth safonol tebyg yn Gymraeg

Er bod modd prynu llythyrau tebyg yn Gymraeg eisoes, cafodd Miriam Williams y syniad ar gyfer cychwyn ei menter ei hun Nadolig y llynedd, a hynny ar ôl gweld bod y llythyrau a oedd ar gael i blant braidd yn anaddas ar eu cyfer.

“Ro’n i’n wedi prynu llythyrau tebyg, rhai Cymraeg, i blant y teulu,” meddai, “ond yn teimlo eu bod nhw naill ai yn amhersonol ac yn gaeth i sgript benodol neu yn defnyddio Cymraeg gwallus ar adegau.”

Yn ogystal, roedd hi’n gweld y fenter yn gyfle da i ennill ychydig o “bres poced”.

“Mi fyswn i wrth fy modd yn dweud mai’r unig reswm y gwnes i ddechrau sgwennu’r llythyrau oedd er mwyn lledaenu hud y Nadolig i gartrefi ar draws Cymru … ond mi ro’n i hefyd yn eitha sgint ar y pryd ac yn meddwl y bysa hyn yn ffordd dda o wneud ychydig bach o bres poced cyn y Nadolig.”

Y cŵyr: “yr her fwyaf”

A hithau wedi derbyn ceisiadau yn ddyddiol yn ystod y misoedd diwethaf, mae’n dweud na fu’r gwaith o lunio’r llythyrau’n hwyl i gyd – yn enwedig wrth doddi cŵyr a’i osod ar yr amlenni.

“Yr her fwyaf mae’n siŵr gen i ydi toddi’r cŵyr … Mae o’n broses mor hirwyntog a ffidli gan fod rhaid i mi doddi darn bach iawn mewn llwy fach fetel dros fflam.

“Dw i wedi trio toddi’r cŵyr mewn mwg yn y microdon ond aeth pethau braidd yn flêr! Hefyd, mi wnes i sgwennu ‘Cariad mawr, Miriam x’ ar un llythyr dros y pnewythnos … wps!”