Mae undeb amaeth NFU Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal cynhadledd Brexit yn y flwyddyn newydd.
Bydd y gynhadledd ‘Brexit: Llunio dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru’ yn cael ei gynnal ar Ionawr 22 ar safle’r Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Ymysg yr unigolion fydd yn areithio mae Stephen James, NFU Cymru; Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Kevin Roberts; a Chyfarwyddwr o fanc Barclays, Oliver McEntyre.
Effaith Brexit
“Dw i’n hapus dros ben ein bod wedi llwyddo cael gafael ar lein-yp dda o siaradwyr,” meddai Cyfarwyddwr NFU Cymru, John Mercer.
“Mae Brexit yn debygol o gael effaith sylweddol ar y ffordd yr ydym yn ffarmio yng Nghymru, a dw i’n annog ffermwyr o Gymru i ymuno â ni.”