Mae chwe chyngor y gogledd wedi dod at ei gilydd i geisio hawlio buddsoddiad gwerth £1.3 biliwn yn economi’r ardal, ac mae eu ‘Cynnig Twf’ wedi ei gyflwyno i Lywodraethau Cymru a Phrydain.

Mae disgwyl i drafodaethau am y cynnig gychwyn yn y flwyddyn newydd.

Yr addewid yw y bydd y cynnig yn arwain at greu 5,000 o swyddi yn ogystal â chreu busnesau newydd a chodi unedau tai.

Corff newydd

Mae’r cynghorau hefyd wedi creu corff newydd sef ‘Bwrdd Twf Gogledd Cymru’ fydd yn cwblhau’r ‘Fargen Twf’ ac yn ei rheoli, wedi i’r ddwy Lywodraeth gytuno arni.

Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, a phrifysgolion a cholegau addysg bellach ar y bwrdd yma.

Cyflwyno cynigion

“Rwy’n falch o gyhoeddi lansio swyddogol Cynnig Twf y Gogledd gyda fy nghyd-Arweinwyr Cyngor a chynrychiolwyr ein partneriaid allweddol ym myd busnes, Addysg Uwch ac Addysg Bellach,” meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Cadeirydd Bwrdd Twf Gogledd Cymru.

“Rydym wedi cyflwyno ein cynigion amlinellol i Guto Bebb AC, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru ac i Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru.”