Er bod economi Cymru yn tyfu ar raddfa gynt nag unman arall yng ngwledydd Prydain, mae Ynys Môn yn parhau i fod yr ardal dlotaf yn holl wledydd Prydain.

Dyna y mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar werth cynnyrch a gwasanaethau (gross value added, GVA), yn ei ddangos.

Cymru welodd y cynnydd uchaf yn GVA rhwng 2015 a 2016, lle bu cynnydd o 1.9% yng Nghymru, ond mae’n parhau i fod ar waelod y tabl o gymharu â rhannau eraill Prydain, gydag Ynys Môn ar waelod y tabl yng Nghymru.

Erbyn hyn, mae GVA y pen yng Nghymru yn £19,140, tra bod y ffigwr ar gyfer Ynys Môn yn £13,655.

Ymateb Rhun ap Iorwerth, AC Môn

“Mae yna resymau ymarferol sy’n cyfrannu at y GVA isel,” meddai Rhun ap Iorwerth, “yn cynnwys y ffaith bod cymaint yn teithio i’r tir mawr i weithio – a lle mae pobl yn gweithio, nid lle maen nhw’n byw sy’n cyfrif wrth fesur GVA.

“Wedi dweud hynny rydym yn gwybod ein bod yn wynebu heriau economaidd ym Môn, ac mae’r ffigyrau yma’n dangos unwaith eto nid yn unig bod angen i’r Lywodraeth Lafur ddatblygu cynllun economaidd gwirioneddol arloesol i Gymru, ond bod angen i hwnnw arwain at ffyniant ym mhob rhan o’r wlad, yn cynnwys ardaloedd gwledig fel Môn.

“Mae diboblogi yn broblem fawr i ni, gyda gormod o’n pobl ifanc yn gadael. Mae ‘na sawl cynllun datblygu economaidd ar y gweill yma – yr her ydi sicrhau bod y rheini yn creu a chadw buddion yn lleol, ac yn rhoi rheswm i’n pobl ifanc aros.”

Twf mwyaf yng Nghaerdydd

Ar ochr arall y tabl yng Nghymru, mae Caerdydd, a welodd y twf mwyaf ymhlith prifddinasoedd gwledydd Prydain, gyda GVA o ychydig yn is na £25,000 y pen.

Er bod Ynys Môn wedi perfformio’n wael, mae’r ffigurau yn fwy calonogol ar gyfer mannau eraill yn y gogledd.

Roedd GVA yn £23,487 y pen yn Sir y Fflint a Wrecsam a llawer o hynny am fod cynhyrchiant ar i fyny yn yr ardaloedd hynny.