Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud ei fod am geisio cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn fewnol, a hynny wrth i’r pwysau barhau ar y cyngor sir i newid ei bolisi iaith er mwyn symud at weithredu’n fewnol yn y Gymraeg.

Dydy’r cyngor heb gynnig ymrwymiad i ddynwared Gwynedd a gweithredu’n Gymraeg yn unig, ond mewn ymateb i Gymdeithas yr Iaith, maen nhw’n dweud mai un o’i egwyddorion yw “cynyddu defnydd o’r iaith Gymraeg yn fewnol”.

Er i arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn o Blaid Cymru, ddweud ar Twitter bod gwaith yn cael ei wneud i weithredu’n Gymraeg, dydy Cymdeithas yr Iaith heb gael eu darbwyllo.

Yn ôl ymgyrchwyr, dydy hynny ddim yn mynd yn ddigon pell ac maen nhw wedi galw am “eglurder, amserlen a chynllun yn nodi’r camau y bydd Cyngor Ceredigion yn eu cymryd i symud at weinyddu yn Gymraeg yn bennaf”.

“Dydy Ellen ap Gwynn ddim wedi ateb ein cwestiwn, sef pryd fydd y Cyngor yn mabwysiadu polisi o symud tuag at weinyddu yn Gymraeg,” meddai Osian Rhys ar ran y mudiad.

“… Rydyn ni wedi gofyn am eglurder, amserlen a chynllun yn nodi’r camau y bydd Cyngor Ceredigion yn eu cymryd i symud at weinyddu yn Gymraeg yn bennaf.

“Mae Gwynedd yn gweinyddu yn Gymraeg, ac Ynys Môn a Sir Gâr yn mynd i’r un cyfeiriad, felly mae Ellen ap Gwynn yn sefyll allan fel arweinydd Cyngor Plaid Cymru sy’n gwrthod symud ymlaen er lles y Gymraeg.

“Naill ai dydy hi ddim yn deall beth ydy gweinyddiaeth fewnol Gymraeg ar fodel Gwynedd, neu mae hi’n esgus peidio deall er mwyn osgoi gweithredu – beth bynnag ydy’r rheswm, mae hi’n esgeuluso ei chyfrifoldeb i’r Gymraeg.”

“Cynyddu defnydd y Gymraeg”

Mewn ymateb i’r sylwadau, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion fod gwaith yn cael ei wneud i gynyddu defnydd y Gymraeg yn fewnol.

“Un o egwyddorion y Cyngor yw cynyddu defnydd o’r iaith Gymraeg yn fewnol, a hynny  drwy godi ymwybyddiaeth ymysg y staff o bwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog.

“Mae’r Cyngor eisoes wedi rhoi cynlluniau yn eu lle er mwyn cynyddu cyfran y staff ar bob lefel sydd â’r gallu a’r hyder i siarad ac ysgrifennu Cymraeg.

“Mae cyfarfodydd cyhoeddus y Cyngor yn cael eu cynnal  drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae holl waith papur y cyfarfodydd hyn ar gael yn Gymraeg sy’n hwyluso’r  trefniadau, fel bod modd cynnal y trafodaethau yn Gymraeg; darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer personau sy’n bresennol nad  ydynt yn deall Cymraeg.

“Mae’r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi Polisi Hybu a Hwyluso Defnydd o’r Gymraeg yn Fewnol, er mwyn medru cefnogi staff i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg; ac mae nifer fawr o gynlluniau ar waith er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg, gan gynnwys rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr nid yn unig ar gyfer dysgu Cymraeg ond hefyd ar gyfer gwella sgiliau iaith gyfredol ein gweithlu.”