Mae’r corff Hybu Cig Oen Cymru wedi clodfori “llwyddiant ysgubol” ymgyrch farchnata’r ‘Lamb Campervan’ – neu’r Cerbyd Cig Oen.

Teithiodd y fan i Erddi Piccadilly ym Manceinon ym mis Tachwedd gyda’r bwriad o weini cebabau cig eidion a raciau asennau am ddim.

Ond, roedd un amod yn wynebu cyhoedd Manceinion.  Roedd yn rhaid ynganu Llanfair­pwllgwyngyll­gogery­chwyrn­drobwll­llan­tysilio­gogo­goch er mwyn derbyn y cinio.

“Mae’n wych bod y fan camper wedi denu gymaint o frwdfrydedd ym Manceinion,” meddai Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu’r Farchnad Hybu Cig Cymru.

“Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae Cig Oen Cymru yn ei hamser tymhorol ac yn blasu’n arbennig felly nid yw’n syndod bod yr holl gynnyrch wedi mynd mewn bron dim amser! ”

‘Llamb’

Brodyr o Lanrwst, William a Huw Roberts, sydd yn berchen ar y fan, ac mae’n debyg eu bod yn gwerthu cig oen o’u fferm nhw o’r cerbyd.

Mae’n debyg bod camsillafiad ‘Llamb’ yn fwriadol – y nod yw cyfleu bod cig oen Cymru yn unigryw.

FIDEO o’r camperfan ym Manceinion: