Mae gwaith paratoi ar gyfer yr amser pan fydd rhai pwerau treth yn cael eu datganoli i Gymru yn wynebu “cyfnod critigol”, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae Huw Vaughan-Thomas yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn darparu systemau treth ar amser pan fydd y pwerau yn dod dros Glawdd Offa ym mis Ebrill 2018.

Yr her i’r Llywodraeth dros y misoedd nesaf, meddai, yw darparu systemau casglu treth gadarn, gan gynnwys darparu a phrofi systemau digidol i wneud hynny.

O 1 Ebrill 2018 ymlaen, bydd Cymru yn cael pwerau trethi ei hun am y tro cyntaf ers dros 800 o flynyddoedd.

Yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol, mae’r Llywodraeth ac Awdurdod Cyllid Cymru, sef y corff a gafodd ei greu i weithredu’r trethi, wedi gwneud cynnydd yn y rhan fwyaf o feysydd wrth baratoi am y pwerau.

Ond bydd y misoedd nesaf cyn mis Ebrill yn “gyfnod critigol” i’r gwaith cyn y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu codi neu leihau trethi.

Costau gweithredu yn cynyddu

Mae hefyd angen i Awdurdod Cyllid Cymru gyhoeddi ei ganllawiau am yr hyn sy’n ofynnol i’w cwsmeriaid wrth gwblhau eu ffurflenni treth.

Dywed fod y gwaith o sefydlu’r awdurdod cyllid yn “mynd rhagddo’n dda ond mae darparu systemau casglu treth ddigidol yn cyflwyno’r risg uchaf o hyd ac mae’n wynebu cyfnod critigol lle nad oes lle am wallau.”

Dywed fod y costau ar gyfer symud y trethi yn parhau i fod o fewn amcangyfrif gwreiddiol Llywodraeth Cymru  ond y bydd y “cyllidebau gweithredu” yr Awdurdod yn uwch na’r hyn a gafodd ei amcangyfrif i ddechrau.

Yr amcangyfrif gwreiddiol ar gyfer costau gweithredu’r Awdurdod yn flynyddol oedd rhwng £2.8 miliwn a £4.9 miliwn ond mae’r debygol o fod yn £6 miliwn erbyn hyn.

“Mae pwerau treth datganoledig yn garreg filltir allweddol ar gyfer Cymru fel cenedl,” meddai Huw Vaughan-Thomas.

“Mae’n hanfodol felly bod Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru yn mynd ati i gyflawni’r prosiectau sy’n weddill yn unol â’r amserlen a nodwyd a bod y gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a datblygu’r berthynas â hwy yn parhau yn y dyfodol.”