Mae dau berson wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A547 yn Sir Conwy.

Gwnaeth dau gerbyd – Ford Focus du a Vauxhall arian – daro yn erbyn ei gilydd ar Ffordd Abergele, Llanddulas am tua 6.10 yr hwyr ddydd Mercher (Rhagfyr 20).

Mae teuluoedd y rhai fu farw yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.

Dylai unrhyw un wnaeth weld y gwrthdrawiad gysylltu â Heddlu’r Gogledd.

Mae swyddogion yn bennaf awyddus i siarad â phobol oedd yn teithio mewn cerbyd salŵn wen – criw oedd mwy na thebyg yn dyst i’r digwyddiad.