Bu cynnydd yn y nifer o alwadau i linellau cymorth yn ystod cyfnod y Nadolig y llynedd, yn ôl elusen blant NSPCC.

Dros brif ddyddiau’r ŵyl – Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Nos Galan 2016, Dydd Calan 2017 – fe gynhaliodd llinell gymorth yr elusen (Childline) 2,490 o sesiynau cwnsela.

Roedd hyn yn gynnydd o gymharu â’r 2,353 sesiwn a gafodd eu cynnal yn ystod yr un cyfnod yn 2016.

Ac o’r sesiynau yma, roedd o leiaf 49 yn 2015-16, a 77 yn 2016-17, o’r plant wnaeth gysylltu yn dod o Gymru.

Mae elusen yr NSPCC wedi rhyddhau’r ffigurau i gyd-daro â lansiad ymgyrch i annog y cyhoedd i gyfrannu arian at eu llinell cymorth.

Nadolig tywyll

“Mae Nadolig i fod yn hudol i blant, ond i lawer mae’n gyfnod tywyll,” meddai Jess Kingston, a fydd yn gweithio yng nghanolfan Childline Caerdydd ar ddydd Nadolig eleni.

“Bydd unrhyw roddion dros y Nadolig yn helpu cadw ni fynd, ac yn ychwanegu rhagor o gwnsleriaid a all helpu plant.”