Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud fod digwyddiad yn Nolgellau wedi dod i ddiweddglo “heddychlon”, a’u bod nhw wedi dod o hyd i “esboniad diniwed”.

Cafodd swyddogion eu galw am 11yb ddydd Mercher (Rhagfyr 20) yn dilyn adroddiadau am ffrae mewn fflat yn Sgwâr Eldon, Dolgellau.

Ar ôl cynnal chwiliad o’r fflat daeth swyddogion Heddlu Gogledd Cymru o hyd i arf tanio, a chafodd yr ardal ei chau i’r cyhoedd.

Bellach mae plismyn wedi cael gafael ar breswylwyr y fflat ac yn bwriadu ailagor yr ardal i’r cyhoedd. Does neb wedi cael ei niweidio.

“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod y digwyddiad yma, yn enwedig yr aelod o’r cyhoedd wnaeth ein galw,” meddai’r Uwch-arolygydd Nick Evans.