Mae heddlu’n apelio am wybodaeth wedi i giang o ddynion ddwyn arian o westy yn Sir y Fflint ben bore heddiw.

Gwesty Parc Dewi Sant, Ewlo, oedd targed y criw, a chyflawnwyd y drosedd am tua 4 o’r gloch y bore.

Cafodd aelod o staff ei glymu, a llwyddodd y dynion i falu peiriant arian parod. Ni chafodd yr aelod staff ei anafu.

Roedd pob un o’r dynion – pedwar i gyd – yn gwisgo mygydau am eu hwynebau.

“Roedd hyn yn brofiad annifyr i’r rheolwr nos ac mae’r troseddwyr wedi dwyn swm mawr o arian,” meddai’r Ditectif Arolygydd, Mark Hughes, o Heddlu Gogledd Cymru.