Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio’r cyhoedd am beryglon galwadau ffug yn dilyn achosion diweddar yn Sir Benfro.

Mae’n debyg bod twyllwyr, sy’n honni eu bod o adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC), wedi bod yn galw cartrefi gan ofyn am fanylion banc.

Mewn rhai achosion mae’r twyllwyr yn bygwth y bydd y llysoedd a’r heddlu yn ymyrryd os nad ydyn nhw’n derbyn y manylion.

“Byddwch yn wyliadwrus,” meddai Paul Callard o’r tîm trosedd ariannol. “Peidiwch a chynnig arian neu fanylion personol. Cofiwch fod peidio â siarad â’r twyllwyr yn hollol iawn.”

Dylai unrhyw un sydd â phryderon gysylltu â’r heddlu trwy ffonio 101.

Cyngor gan yr heddlu

  • Peidiwch â bod yn rhy groesawgar o alwadau neu negeseuon gan rifau dieithr
  • Os derbyniwch alwad ffug, dewch â’r alwad i ben yn syth
  • Peidiwch a siarad â nhw, a pheidiwch â rhoi unrhyw fanylion