Mae Heddlu’r De wedi cyhuddo dynes 31 oed o lofruddio ei gŵr yn Aberdâr dros y penwythnos.

Bu farw Neal Jex, 52 oed, mewn tŷ yn ardal Penywaun yn Aberdâr ddydd Sul (17 Rhagfyr). Roedd wedi cael ei drywannu.

Roedd Natasha Smith wedi ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr heddiw (dydd Mawrth, 19 Rhagfyr) a chafodd ei chadw yn y ddalfa.

Mae ymchwiliad i farwolaeth Neal Jex yn cael ei gynnal gan yr heddlu.

Dywedodd ei deulu eu bod wedi torri eu calonnau a’u bod wedi colli “brawd, mab, tad, taid a ffrind” a oedd yn “dotio at ei deulu.”