Mae’r gwaith o dorri tua deugain o goed yn ardal Y Rhath, Caerdydd yn dechrau heddiw yn rhan o gynllun i reoli llifogydd yn yr ardal.

Cafodd y cynllun ei atal am gyfnod yn dilyn gwrthwynebiad lleol, ond mae Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod mai dyma’r opsiwn gorau i leihau perygl llifogydd yn yr ardal.

Mae’r cynllun yn cynnwys lledu Nant y Rhath yng Ngerddi Nant y Rhath a Gerddi Melin y Rhath er mwyn cario rhagor o ddŵr oddi wrth yr ardal.

I wneud hynny bydd rhaid torri 38 o goed, ac mi fydd 41 o goed eraill yn cael eu plannu yn eu lle gyda’r bwriad o gadw cymeriad Edwardaidd y parciau.

‘Cynllun pwysig’ 

“Rydym wedi gallu cadw llawer o goed mwyaf ysblennydd a phwysig y parc gan ddylunio cynllun o’u hamgylch yn fwriadol,” meddai John Hogg ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Yr unig goed na allwn osgoi eu torri yw’r rhai sydd raid inni eu tynnu er mwyn dyfnhau’r ffrwd i leihau perygl llifogydd i bobol leol.

“Byddant yn cael eu disodli gan rywogaethau tebyg, gan helpu i gadw cymeriad Edwardaidd y parc,” meddai.

Mae’n ychwanegu fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydweithio â Chyngor Caerdydd a phobol yn y Rhath a Phenylan ers 2012 “i ddatblygu’r cynllun pwysig hwn a fydd yn gwella diogelwch i 360 o gartrefi a 45 o  fusnesau yn yr ardal.”