Mi fydd Cymru’n ei gweld hi’n anos i gwrdd â thargedau newid hinsawdd yn y dyfodol o gymharu â rhannau eraill o wledydd Prydain.

Y prif resymau yw bod Cymru’n ddibynnol ar ddiwydiannau trwm ac amaeth sy’n cyfrannu’n helaeth at allyriadau carbon.

Daw’r sylwadau gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd (PNH) sy’n cyflwyno adroddiad annibynnol i Lywodraeth Cymru wrth iddynt hwythau geisio lleihau 80% o allyriadau carbon y wlad erbyn 2050 o gymharu â lefelau 1990.

‘Uchelgeisiol ond cyraeddadwy’

Er hyn, mae’r pwyllgor yn pwysleisio fod gan Gymru ran flaenllaw i’w chwarae a bod angen chwilio ffyrdd i leihau grym carbon o’r economi gan ddiogelu, ar yr un pryd, ddiwydiannau a swyddi Cymru.

“Mae Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol ond cyraeddadwy i leihau allyriadau erbyn 2050 yn rhan o ymdrech fyd-eang i fynd i’r afael â newid hinsawdd,” meddai’r Arglwydd Deben, Cadeirydd y pwyllgor.

Mae’n ychwanegu fod gorsafoedd pŵer gan gynnwys Aberddawan yn ne Cymru yn cyfrannu tua 14% at allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru, ac amaethyddiaeth yn cyfrannu tua 13%.

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r adroddiad gan ddweud fod Cymru “eisoes yn gweithredu.”

“Dw i wedi cyhoeddi yn ddiweddar fy uchelgais i’r sector cyhoeddus i fod ar sero carbon net erbyn 2030, targedau ynni adnewyddadwy uchelgeisiol, a’r wythnos diwethaf gosododd Ysgrifennydd yr Economi ddatgarboneiddio yn rhan ganolog o’r Cynllun gweithredu Economaidd.”

Argymhellion

Mae argymhellion eraill yr adroddiad yn cynnwys:

  • Anelu at gyfyngu allyriadau i 23% islaw lefelau 1990 erbyn 2020, a chyfyngu ymhellach i 33% rhwng 2021 a 2025.
  • Lleihau allyriadau o drafnidiaeth ac annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a gwella rhwydwaith gwefru ceir trydan.
  • Lleihau allyriadau o fyd amaeth.
  • Cynyddu cyfraddau plannu coed i o leiaf 4,000 hectar bob blwyddyn
  • Darparu mwy o drydan o ffynonellau carbon isel.