Mae George Meyrick wedi ei ddewis i olynu’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn Ganghellor ar Brifysgol Bangor.

Ef yw’r deuddegfed i ddal y swydd seremonïol hon yn y brifysgol, a bydd yn gwasanaethu am gyfnod cychwynnol o bum mlynedd.

Cyfreithiwr yw George Meyrick a raddiodd o Brifysgol Caergrawnt ac sydd yn arbenigo ym maes yr amgylchedd.

Mae wedi sefydlu nifer o fusnesau sy’n gweithredu ym maes yr amgylchedd ac mae’n Gadeirydd Gweithredol grŵp teulu Meyrick  – casgliad o fusnesau a daliadau tir.

Mae George Meyrick yn byw yn Neuadd Bodorgan, ef sydd i etifeddu teitl  8fed Barwnig Hinton Admiral, ac ef oedd yr 19eg person cyfoethocaf yng Nghymru yn 2014.

Pwrpas ei rôl fydd i gyflawni dyletswyddau seremonïol a chynrychioli’r brifysgol mewn digwyddiadau. Cafodd ei groesawu yn ystod seremoni graddio’r wythnos ddiwethaf.