Wrth i’r Gyllideb derfynol gael ei hamlinellu heddiw, mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ddatgelu hwb o £160 miliwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd awdurdodau lleol yn cael £20 miliwn o arian ychwanegol yn 2018-19 a £40 miliwn yn 2019-20 i gefnogi gwasanaethau lleol, yn ôl y Llywodraeth.

Hefyd bydd swm ychwanegol o £50 miliwn y flwyddyn yn cael ei ddyrannu i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG Cymru) yn 2018-19 a 2019-20 i hybu eu gwaith mewn sawl maes.

Lleddfu pwysau

“Rwy’n falch o allu darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus – meysydd ry’n ni’n gwybod bod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw,” meddai’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.

“Bydd yr arian hwn yn helpu i leddfu rhywfaint ar y pwysau sydd ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen.

“Maen nhw wedi cael trafferth ymdopi oherwydd y toriadau cyson i’n cyllideb ers 2010-11, diolch i raglen Llywodraeth y Deyrnas Unedig o gyni ariannol.”

Y Gyllideb

Bydd y gyllideb derfynol yn cael ei hamlinellu am 2yp prynhawn dydd Mawrth (Rhagfyr 19) gyda phleidlais ar y gyllideb yn cael ei chynnal ar Ionawr 16 2018.

Yn ôl Mark Drakeford, mae cyllideb heddiw yn “nodi carreg filltir” gan fod Cymru am y tro cyntaf yn gyfrifol am godi refeniw ei hun trwy ddwy dreth newydd – y dreth tirlenwi a’r dreth trafodion tir.