Mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi’i enwi’n Wleidydd Cymreig y Flwyddyn 2018.
Dyma yw’r 13eg gwaith i’r wobr gael ei ddyfarnu, a gwnaeth beirniaid ganmol y gwleidydd am ei waith ym meysydd trafodaethau Brexit a threthi newydd.
Eluned Morgan sydd wedi ei henwi’n Aelod Cynulliad y flwyddyn a Carolyn Harris sydd wedi ei henwi’n Aelod Seneddol y flwyddyn.
Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, sydd wedi ennill y wobr ‘Gwleidydd i Gadw Llygad Arno’.
Irfon Williams, a fu farw ym mis Mai wedi brwydr hi yn erbyn canser, ac a fu’n ymgyrchu am ddiwygiadau i sustem gyffuriau Cymru, sydd wedi’i enwi’n ‘Ymgyrchydd y Bobol’ 2018.
Cafodd yr enillwyr eu dewis gan banel o arbenigwyr gan gynnwys cynrychiolwyr o ITV Cymru ac aelodau asiantaethau marchnata.